DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

Amserlen ar gyfer Gwneud Penderfyniad ynglŷn â’r M4

DYDDIAD

30 Ebrill 2019

GAN

Mark Drakeford AC, Prif Weinidog Cymru

 

 

Fe fydd Aelodau yn ymwybodol fy mod wedi bod yn ystyried yn ofalus Adroddiad yr Arolygydd ynghyd â chyngor gan swyddogion ar Brosiect yr M4.

 

Rwy’n rhagweld y byddaf mewn sefyllfa i gyhoeddi fy mhenderfyniad ynghylch a ddylid gwneud y gorchmynion cyfreithiol sydd eu hangen er mwyn i’r prosiect fynd yn ei flaen yn ystod yr wythnos gyntaf ym mis Mehefin neu beidio.

 

Unwaith bydd y penderfyniad wedi’i gadarnhau, fe gyhoeddir llythyr yn amlinellu’n llawn y rhesymau dros y penderfyniad.  Darperir dolen i fersiynau electronig o  Adroddiad yr Arolygydd, yn y Gymraeg a’r Saesneg, ochr yn ochr â’r llythyr.